Wales Co-operative Centre

Canolfan Cydweithredol Cymru

Dengys ymchwil fod 1 ym mhob 5 tenant wedi troi at fenthycwyr stepen y drws yn y flwyddyn ddiwethaf – #povertyinwales

leave a comment »

Wrth i ddiwygiadau Lles eang gael eu gweithredu ledled Prydain, mae Jocelle Lovell, Rheolwr Prosiect Cynhwysiant Ariannol Canolfan Cydweithredol Cymru’n trafod y newidiadau.

Mae arolwg diweddar wedi dangos nad oedd bron dwy ran o bump o landlordiaid preifat a phortffolio yng Nghymru’n barod ar gyfer y newidiadau sydd ar ddod i’r budd-daliadau Lles a’r effaith ddilynol y gallant ei chael ar eu hincwm rhent.

Yn syfrdanol, awgryma cynllun peilot ar wahân a gynhaliwyd gan Ganolfan Cydweithredol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fod tenantiaid y sector preifat yr un mor anwybodus ac amharod â’u landlordiaid.

Bydd y diwygiad lles yn effeithio ar y ffordd y bydd pob hawlydd, gan gynnwys y rhai sydd ar hyn o bryd yn cael budd-dal tai, yn cael eu taliadau. Bydd pob aelwyd yn cael y buddion y mae ganddo’r hawl i’w cael mewn un taliad a fydd yn ôl-daliadau misol.

Mae nifer o denantiaid i landlordiaid preifat a chymdeithasol yn dal i ddweud nad ydynt yn talu rhent gan nad ydynt erioed wedi cael yr arian ac nad ydynt erioed wedi gorfod gwneud taliad eu hunain. Mae hefyd nifer o denantiaid wedi’u heithrio’n ddigidol ac nid oes ganddynt unrhyw fodd o gael mynediad i wasanaethau ar-lein a fydd yn eu helpu i ymdopi’n well neu nid oes ganddynt y sgiliau i wneud hyn.

Mae cyllidebu’n broblem i denantiaid sydd ar hyn o bryd wedi arfer cael taliadau bob wythnos neu bythefnos. Gallai llawer o denantiaid sy’n delio’n unig mewn yr economi arian parod ganfod eu hunain mewn trafferthion cyn hir.

Nid yw pobl sydd eisoes yn byw mewn tlodi neu sy’n agos iawn at y ffin yn dymuno cael y temtasiwn o gael arian rhent yn eu poced. Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n wynebu’r dewis rhwng talu’r rhent neu fwydo neu gael dillad i’w plant yn sicrhau y bodlonir anghenion mwyaf brys eu plant yn gyntaf.

Gweithredir y newidiadau i’r Diwygiad Lles a Chredyd Cynhwysol dros y blynyddoedd nesaf. Credwn pe byddai rhagor o adnoddau’n cael eu buddsoddi mewn dulliau rhagweithiol o ymgysylltu â thenantiaid ‘mewn perygl’ yn awr yna byddai hyn yn llawer mwy effeithlon a byddai’n cynnig gwerth gwell am arian i’r pwrs cyhoeddus yn hytrach na delio ag ymyrraeth mewn argyfwng yn hwyrach. Woman in front of house

Yn dilyn darn o waith a weithredwyd mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, awgryma’r canfyddiadau cynnar nad yw pedwar o bob pum tenant yn ymwybodol o hyd o sut yn union y bydd y diwygiadau’n effeithio arnynt. Nid oedd gan o leiaf hanner o’r tenantiaid a gwestiynwyd hyd yn hyn fynediad i gyfleusterau ar-lein.

Trwy weithio mewn partneriaeth gyda staff o’r awdurdod lleol, roeddem yn gallu egluro effeithiau’r diwygiadau i bob tenant. Lle bo’n bosibl, rhoddwyd cyngor i’r tenantiaid ar ymgeisio am arian ychwanegol a gwnaethpwyd cyfeiriadau i asiantaethau cyngor a chymorth eraill yn yr ardal, gan gynnwys banciau bwyd. Roedd dros hanner o’r tenantiaid yr ymwelwyd â nhw wedi’i chael yn anodd talu biliau megis rhent a chyfleustodau ac roedd un ym mhob pump wedi troi at fenthycwyr stepen drws yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd pob tenant yn wynebu heriau gwahanol – talu biliau, talu rhent, prynu bwyd neu brynu dillad i’w plant, ond roedd y rhan fwyaf eisoes yn cael trafferth ariannol.

Mae arnom angen amrywiaeth o ddatrysiadau i fodloni anghenion gwahanol bobl. Ni ddylai neb gael eu gorfodi i ddefnyddio cynnyrch neu wasanaeth nad yw’n addas iddyt.

Gallai un o’r datrysiadau hyn fod yn Gyfrif Rhent Undeb Credyd gan ei fod yn cynnig tawelwch meddwl i’r tenant y telir ei rent ac mae hefyd yn dileu’r temtasiwn i ddefnyddio’r arian rhent i ymgodymu â diffyg yn rhywle arall. Roedd 80% o’r tenantiaid yr ymwelwyd â nhw am archwilio’r syniad o Gyfrif Rhent Undeb Credyd gan y teimlent mai dyma’r ffordd orau o amddiffyn eu tenantiaeth.

Mae prosiect Taclo Digartrefedd trwy Gynhwysiant Ariannol Canolfan Cydweithredol Cymru’n gweithio gydag awdurdodau lleol a landlordiaid ledled Cymru i hyrwyddo’r model syml hwn.

Yn sgil y newidiadau i’r Diwygiad Lles a’r toriadau i arian y sector cyhoeddus, ni fu erioed amser pwysicach i’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector gydweithio ymhellach i gefnogi pobl a thaclo tlodi.

Written by Mark Smith

October 30, 2013 at 8:31 am

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s

%d bloggers like this: