Wales Co-operative Centre

Canolfan Cydweithredol Cymru

Arloeswyr Modern #5 – Cris Tomos, 4CG

leave a comment »

Cynhelir y Bythefnos Gydweithredol rhwng 21 Mehefin – 5 Gorffennaf. Eleni rydym yn talu teyrnged i’r Rochdale Pioneers a oedd, ar y cyd â Robert Owen, ymhlith cyndeidiau’r mudiad cydweithredol.

Rydym yn mynd ati i gyflawni hyn trwy arddangos gwaith 14 o’r ‘Arloeswyr Modern’ o’r sector cydweithredol yng Nghymru, trwy gyfrwng cyfres o bostiadau blog. Mae’r post ar y blog heddiw yn edrych ar waith Cris Tomos, o 4CG sef cwmni cydweithredol adfywio cymunedol yn Aberteifi.

“Rwyf wedi bod yn rhan o sefydlu llawer o gwmnïau cydweithredol yng Ngorllewin Cymru ac yn parhau i fod yn rhan o’u byrddau ac rwy’n gwirfoddoli fel cynghorydd. Yn 2004 pan gaeodd yr ysgol gynradd yn fy mhentref genedigol yn Hermon, gogledd Sir Benfro yn 2004, roeddem wedi gallu creu Cwmni Cydweithredol er Budd y Gymuned a rhoi cyfranddaliadau er mwyn prynu hen safle’r ysgol. Bellach mae canolfan adnoddau cymunedol ffyniannus iawn yn Hermon a gweithgareddau cymunedol bob dydd o’r wythnos (www.canolfanhermon.org.uk). Pan gollodd ein cymuned fach yr ysgol gynradd yn Hermon nid oedd gennym unrhyw le arall i gyfarfod a chynnal digwyddiadau. Felly aethpwyd ati a defnyddio’r siom a’r rhwystredigaeth yr oeddem yn eu teimlo a chreu cynllun gweithredu ar gyfer dadwneud y dirywiad gwledig o golli gwasanaethau lleol. Mae cael lle i’r trigolion lleol gyfarfod a datblygu syniadau newydd a mynd i’r afael â heriau economaidd a chymdeithasol wedi sicrhau llwyddiant gwych.

Yn 2005 roeddwn yn un o’r aelodau a sefydlodd Undeb Credyd Credcer, sydd bellach wedi tyfu i gynnig bancio cymunedol ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Rwy’n Drysorydd y banc cymunedol estynedig, a elwir yn Undeb Credyd Gorllewin Cymru. (www.wwcu.co.uk).

Cris Tomos

Yn 2010 dechreuais ymwneud â chwmni cydweithredol newydd a lansiwyd yn Aberteifi, sef 4CG Cyf. Croesawyd cynnig cyfranddaliadau 4CG gan y dref a phrynwyd gwerth £300,000 o gyfranddaliadau, gyda £250,000 yn rhagor yn cael ei ddiogelu trwy gynllun benthyca cymunedol cyfoedion i gyfoedion. Mae’r arian a godwyd wedi galluogi’r cwmni cydweithredol i brynu dau faes parcio, tair storfa, dwy siop, dau dŷ, yr hen Orsaf Heddlu a hen Adeilad y Llys. Mae’r tir a’r adeiladau’n cael eu hadfer, i gynnig gwaith a gwagle i’w rhentu ar gyfer busnesau sy’n cychwyn (www.4cg.org.uk).

Yn olaf, rwy’n gadeirydd Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian, sef cwmni cydweithredol newydd a ddatblygwyd i gefnogi cynhyrchu ynni cymunedol. Mae’r cwmni wedi cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer dau o dyrbinau gwynt, a fydd yn cynhyrchu elw net o £300,000 y flwyddyn dros gyfnod 20 mlynedd y cynllun Tariff Cyflenwi Trydan. Bydd y prosiect yn costio £2.2 miliwn ac yn sicrhau y bydd unrhyw arian dros ben yn cael ei roi yn ôl i greu cwmnïau cydweithredol newydd, tai fforddiadwy a gweithdai cymunedol. www.cwmarian.org.uk

Mae rhoi fy egni gwirfoddol i gefnogi cwmnïau cydweithredol wedi bod yn brofiad gwerth chweil wrth weld pobl yn cael cyflogaeth ac yn datblygu’u sgiliau. Mae llawer o gymunedau eraill wedi bod i ymweld â’n cynlluniau cydweithredol gan ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd ganddynt yn eu cymunedau eu hunain.

Mae’r grŵp o gwmnïau cydweithredol yr wyf wedi bod yn ymwneud â hwy wedi gweld dros 2,500 o bobl yn dod yn aelodau o gwmnïau cydweithredol. Yna mae modd i bobl ymuno â’r broses ddemocrataidd ‘un aelod, un bleidlais’ a llunio dyfodol eu cymunedau. Mae’r diddordeb o ran egwyddorion cydweithredol yn ein hardal weithredu ddaearyddol wedi bod yn anhygoel. Mae pobl wedi gweld bod newid yn gallu digwydd ar lawr gwlad, a bod grŵp o bobl a chanddynt weledigaeth a syniadau yn gallu sefydlu cwmni cydweithredol i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.

Mae rôl cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol yn bwysig dros ben a’r hyn sy’n allweddol yw sicrhau bod mwyafrif helaeth yr aelodaeth yn cynnwys pobl leol. Byddai cael cwmni cydweithredol ym mhob cymdogaeth yn caniatáu creu cynlluniau gweithredu cymunedol, i fynd i’r afael â gwendidau a datblygu cyfleoedd ar gyfer yr ardal. Byddai cael cwmnïau ynni cydweithredol ym mhob cyngor cymuned a chyngor thref yng Nghymru yn golygu bod arian yn cael ei wario’n lleol er budd lleol. Wrth i 730 o gynghorau cymuned a thref gael £300,000 y flwyddyn wrth gynhyrchu ynni, byddai hyn yn golygu £219,000 o refeniw ychwanegol y flwyddyn i gymunedau yng Nghymru.

Mae bob amser yn fuddiol i dynnu sylw at ymdrechion unigolion a thimau o bobl i yrru ymlaen y ddelfryd o gydweithredu. O’r hadau a blannwyd gan y Rochdale Pioneers yn y 1800au, i’r gwaith aruthrol sy’n cael ei gyflawni gan gwmnïau cydweithredol yng Nghymru heddiw. Mae llawer o enghreifftiau ysbrydoledig o gwmnïau cydweithredol yn sicrhau canlyniadau gwych yng Nghymru yn 2014.”

Darganfyddwch ragor am y Rochdale Pioneers trwy ffotograff rhyngweithiol arbennig.

Written by Mark Smith

June 25, 2014 at 7:20 am

Posted in co-operatives

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s

%d bloggers like this: