Wales Co-operative Centre

Canolfan Cydweithredol Cymru

Arloeswyr Modern #10 ‒ David Jenkins, Canolfan Cydweithredol Cymru

leave a comment »

Rydym yn cynnal ymgyrch ar gyfer y Bythefnos Gydweithredol (21 Mehefin – 5 Gorffennaf) sy’n dangos cryfder ac amrywiaeth busnesau cydweithredol yng Nghymru.

Trwy gyfrwng cyfres o flogiau, mae’r ymgyrch ‘Arloeswyr Modern’ yn tynnu sylw at faint y cwmnïau cydweithredol sydd yng Nghymru a’r mathau yn ogystal â’r sectorau y maent yn gweithredu ynddynt.  Mae’n cael ei hysbrydoli gan y Rochdale Pioneers, sydd ymhlith cyndeidiau’r mudiad cydweithredol.

Mae post heddiw yn edrych ar waith David Jenkins, Cadeirydd Canolfan Cydweithredol Cymru.

“Nid bob dydd y mae rhywun yn gofyn i chi ydych chi eisiau bod yn Arloeswr.  Gallaf gofio, bron, derbyn fy mathodyn Arloesi gan y Sgowtiaid yn ôl yn yr 1960au, ond roedd hynny yn ymwneud â chlymu clymau ac adeiladu pontydd rhaff.  Felly beth ydw i wedi’i wneud er mwyn haeddu derbyn y label ‘Arloeswr Cydweithredol Modern’?

David Jenkins

David Jenkins

Ychydig dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, yn 1982, roeddwn yn Swyddog Ymchwil gyda TUC Cymru.  Roedd yn gyfnod o ddirwasgiad economaidd (dyw pethau ddim yn newid rhyw lawer, nac ydynt?), ac roedd swyddi’n cael eu colli ar raddfa fawr yn y diwydiannau dur, glo a gweithgynhyrchu.  Gwnaeth yr undebau llafur yr hyn y mae undebau llafur yn eu gwneud bob tro; gwnaethant ymgyrchu yn erbyn cau’r gweithleoedd a’r diswyddiadau a brwydro am iawndal ar gyfer eu haelodau pan fyddai’r frwydr i gadw’r swyddi yn cael ei cholli.  Fodd bynnag, gyda’n gilydd, trwy TUC Cymru, gwnaethom ni rywbeth arall; penderfynom ni geisio cefnogi’r gweithwyr a ddiswyddwyd a’u cymunedau i greu swyddi a chyfleoedd newydd mewn mentrau cydweithredol a berchnogir gan y gweithwyr a’r gymuned.  A chyda hynny, ganwyd Canolfan Cydweithredol Cymru.

Heddiw, fel Cadeirydd Canolfan Cydweithredol Cymru, gallaf edrych yn ôl ar y tri degawd diwethaf â balchder sylweddol wrth i’r Ganolfan dyfu i fod yn sefydliad datblygu mentrau cydweithredol mwyaf a mwyaf llwyddiannus y DU.  Dros y tri degawd rydym wedi bod yn gweithio gyda chymunedau ledled Cymru i hyrwyddo cynhwysiant digidol, ariannol a chymdeithasol er mwyn rhoi grym i bobl reoli eu dyfodol eu hunain trwy sefydlu busnesau cydweithredol newydd.

Gan fy mod wedi bod yn rhan o sefydlu Canolfan Cydweithredol Cymru yn yr 1980au cynnar, a chan fy mod wedi gwasanaethu fel aelod o’i Bwrdd ers y cyfnod hwnnw, gallaf ddweud â sicrwydd bod yr ymdriniaeth a ymgymerwyd gan TUC Cymru yn yr 1980au cynnar yn un arloesol heb os. Mae’n ymdriniaeth sy’n dal heb ei hail ledled Ewrop ac sy’n cynnig enghraifft o sut y gall a sut ddylai undebau llafur gymryd rôl arweiniol mewn datblygu economaidd ac wrth gefnogi modelau busnes cydweithredol.

Pan ofynnir imi beth yw ein llwyddiant pennaf, mae’n demtasiwn sôn am esiampl Glofa’r Tŵr bob tro.  Pwll a chymuned lofaol a ystyriwyd yn ddiangen ac a daflwyd o’r neilltu gan Lo Prydain ond a drawsnewidiwyd gan barodrwydd y gweithlu i fuddsoddi mewn menter lofaol gydweithredol lwyddiannus.  Does dim amheuaeth bod llwyddiant menter gydweithredol y Tŵr a’r diddordeb rhyngwladol sylweddol a ddenodd wedi helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am gydweithredu a rôl Canolfan Cydweithredol Cymru.

Ond o’m safbwynt i, llwyddiant mwy sylfaenol oedd y gallu i ddenu a chynnal cefnogaeth gan y sbectrwm gwleidyddol.  Nid cyfrinach yw dweud nad oedd TUC Cymru yn disgwyl i Lywodraeth Thatcher ddarparu cefnogaeth ariannol er mwyn sefydlu Canolfan Cydweithredol Cymru.  Roedd datganiad i’r wasg a oedd yn beirniadu difaterwch y Llywodraeth tuag at broblemau Cymru wedi’i ddrafftio yn barod pan wnaethom ni gyflwyno ein cynnig i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ond darparu cefnogaeth ariannol a wnaethant; cefnogaeth ariannol sy’n parhau, ac a agorodd y drws ar gyfer nawdd Ewropeaidd, ac a arweiniodd y Ganolfan i gael ei gweld fel sefydliad enghreifftiol o fewn Ewrop.

Mae’r gefnogaeth barhaus y mae’r Ganolfan yn ei chael gan Lywodraeth Lafur Cynlluniad Cymru efallai yn llai o syndod, ond yn cael ei gwerthfawrogi yn yr un modd.  Roeddwn i wrth fy modd ychydig flynyddoedd yn ôl pan wrandawodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart, ar ein hawgrymiadau a sefydlu Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol, Comisiwn yr oeddwn yn falch iawn i fod yn rhan ohono, er mwyn archwilio’r potensial ar gyfer datblygiad cydweithredol yng Nghymru.  Mae adroddiad y Comisiwn, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn sefydlu rôl gynyddol a chyffrous i fentrau cydweithredol a chydfuddiannol, ac rwy’n hyderus y gall bob un ohonom edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu Cymru mwy cydweithredol.

Felly, ydy hynny yn fy ngwneud i yn “Arloeswr Cydweithredol Modern”?  Nac ydy, fwy na thebyg; ond mae’n fy atgoffa mor ffodus yr ydw i wedi bod i allu bod yn rhan o weithgarwch arloesol diddorol iawn.

Darganfyddwch sut y gellir helpu cwmnïau cydweithredol yng Nghymru trwy adran cymorth busnesein gwefan.

Written by Mark Smith

July 2, 2014 at 7:15 am

Posted in co-operatives

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s

%d bloggers like this: